Lleoliad:
Hybrid, Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Mercher, 10 Tachwedd 2021
Amser:
09.30 -
12.28
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/12470
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Delyth Jewell AS (Cadeirydd) Hefin David AS Alun Davies AS Heledd Fychan AS Tom Giffard AS Carolyn Thomas AS |
Tystion: |
Christopher Catling, Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru David Thomas, Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru Nest Thomas, Ffederasiwn Amgueddfeydd ac Orielau Celf Cymru Sharon Heal, Museums Association David Anderson, Amgueddfa Cymru Neil Wicks, Amgueddfa Cymru Pedr ap Llwyd, National Library of Wales Owain Roberts, National Library for Wales Kath Davies, Amgueddfa Genedlaethol Cymru Nia Williams, Amgueddfa Cymru Rebecca Nelson, Cyngor Celfyddydau Cymru Diane Hebb, Cyngor Celfyddydau Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Lleu Williams (Clerc) Martha Da Gama Howells (Ail Glerc) Callum Morgan (Dirprwy Glerc) Robin Wilkinson (Ymchwilydd) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol.
1.2 Yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, dywedodd y Cadeirydd ei bod wedi penderfynu gwahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd, ond byddai’r cyfarfod yn cael ei ddarlledu’n fyw ar www.senedd.tv.
1.3 Yn unol â Rheol Sefydlog 17.24A, datganodd Heledd Fychan AS fuddiant perthnasol gan ei bod wedi cael ei chyflogi gan Amgueddfa Genedlaethol Cymru yn flaenorol; wedi bod yn aelod o fwrdd Cymdeithas yr Amgueddfeydd a phwyllgor Ffederasiwn Amgueddfeydd ac Orielau Celf Cymru.
2 Ymchwiliad undydd i dreftadaeth, amgueddfeydd ac archifau
2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru, Ffederasiwn Amgueddfeydd ac Orielau Celf Cymru, a Chymdeithas yr Amgueddfeydd
2.2 Cytunodd Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru, Ffederasiwn Amgueddfeydd a Chymdeithas yr Amgueddfeydd i ysgrifennu at y Pwyllgor i roi rhagor o wybodaeth yn ymwneud â’r sesiwn.
3 Ymchwiliad undydd i dreftadaeth, amgueddfeydd ac archifau
3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr Amgueddfa Genedlaethol Cymru a Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
4 Amgueddfa Genedlaethol Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru: cyflawni prosiectau ar y cyd
4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr Amgueddfa Genedlaethol Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru.
5.1 Cytunodd y ddau sefydliad i ddarparu rhagor o wybodaeth yn ymwneud â’r sesiwn.
5 Papurau i’w nodi
5.1 Cafodd y papurau eu nodi.
5.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Prif Weinidog i ofyn am ragor o fanylion am y materion yn ei ymateb i’r Pwyllgor ynghylch gwaith Llywodraeth Cymru mewn perthynas â chysylltiadau rhyngwladol.
5.3 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Weinidog yr Economi a’r Dirprwy Weinidog dros y Celfyddydau a Chwaraeon a’r Prif Chwip i ofyn iddynt egluro’u cyfrifoldebau hwy dros y sectorau sy’n rhan o gylch gwaith y Pwyllgor.
6 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
6.1 Derbyniwyd y cynnig.
7 Ôl-drafodaeth breifat
7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd a chytunodd i ysgrifennu at Amgueddfa Genedlaethol Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru.
7.2 Oherwydd prinder amser, ni chafodd y Pwyllgor gyfle i drafod y llythyr drafft at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Dechnoleg Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon. Cytunodd yr aelodau i ystyried yr ohebiaeth y tu allan i'r cyfarfod hwn.